Papur tystiolaeth i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Deisebau gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ - Dydd Mawrth 11 Hydref 2011

 

Byw’n Annibynnol

 

1.       Rwy’n cytuno gyda’r diffiniad fel y caiff ei ddatgan ym Maniffesto Byw’n Annibynnol Anabledd Cymru, lle mae’n golygu:

 

Ø dileu’r rhwystrau sy’n atal cyfranogaeth lwyr, yn economaidd a chymdeithasol, yng nghymdeithas y brif ffrwd, a

 

Ø sicrhau bod gan bobl anabl yr un rhyddid, dewis, urddas, rheolaeth a chyfleoedd ag unrhyw ddinesydd arall – gartref, yn y gwaith ac yn y gymuned.

 

Bydd angen gweithio drwy fanylion yr hyn a olyga hyn o safbwynt cyfrifoldeb polisïau i Lywodraeth Cymru drwy ddatblygu Fframwaith Gweithredu ar Fyw’n Annibynnol.

 

Deddf Cydraddoldeb 2010

 

2.       Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cynnwys dyletswydd gydraddoldeb gyffredinol i’r sector cyhoeddus a ddaeth i rym ar 5 Ebrill 2011. Mae’r ddyletswydd gyffredinol yn datgan bod gofyn i gyrff cyhoeddus roi ‘sylw dyledus’ i’r angen i:

 

ØDdileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth ac ymddygiad o fath arall sy’n cael ei wahardd gan y Ddeddf;

 

ØHybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rheini nad ydynt yn rhannu’r nodwedd hon; a

 

ØMeithrin perthnasoedd da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rheini nad ydynt yn rhannu’r nodwedd hon

 

3.       Mae ‘sylw dyledus’ yn golygu ystyried y tri nod hwn yn ymwybodol wrth wneud penderfyniadau am bolisïau neu arferion y byddent yn effeithio ar bobl. Er enghraifft, mae’r ddyletswydd yn cwmpasu:

 

- y modd y mae awdurdod cyhoeddus yn gweithredu fel cyflogwr;

- y modd y mae’n datblygu polisïau;

- y modd y mae’n cynllunio ac yn cyflenwi gwasanaethau; a’r

- modd y mae’n caffael gwasanaethau.

 

4.       Rhaid i’r ystyriaeth a roddir i dri nod y Ddyletswydd Gydraddoldeb ffurfio rhan annatod o’r broses gwneud penderfyniadau. Nid mater o dicio blychau yw’r Ddyletswydd Gydraddoldeb; rhaid ei chyflawni â sylwedd, yn drwyadl a gyda meddwl agored yn y fath fodd fel ei bod yn dylanwadu ar y penderfyniad terfynol.

 

5.       Golyga hyn bod yn rhaid i ni fynd ati i ystyried effaith ein holl bolisïau, ein rhaglenni a’n harferion er mwyn sicrhau bod pobl anabl, a’r rheini sy’n rhannu’r nodweddion gwarchodedig eraill, yn cael eu trin yn deg a chyfartal. Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i ni annog pobl â nodweddion gwarchodedig i gyfranogi yn y bywyd cyhoeddus neu mewn gweithgareddau eraill lle nad oes llawer ohonynt yn cyfranogi; a mynd i’r afael â rhagfarn a hybu dealltwriaeth rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig ac eraill.

 

Dyletswyddau Cydraddoldeb penodol i Gymru

 

6.       I gefnogi perfformiad y ddyletswydd gydraddoldeb gyffredinol i’r sector cyhoeddus, mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 yn dynodi’r hyn y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus (gan gynnwys Llywodraeth Cymru) yng Nghymru ei wneud i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol a pherfformio’n well o safbwynt cydraddoldeb a pherthnasoedd da. Ar amcanion cydraddoldeb sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau y mae ffocws y dyletswyddau hyn sy’n benodol i Gymru, a bydd y rhain wedi’u cyhoeddi erbyn Ebrill 2012.

 

7.       Sefydlwyd prosiect i alluogi Llywodraeth Cymru i gydymffurfio â’r Dyletswyddau Penodol. Yr enw arno yw “Prosiect y Cynllun Cydraddoldeb Strategol” a chynullwyd Bwrdd Prosiect gydag uwch gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a sefydliadau allanol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu â’r rhanddeiliaid gydol proses datblygu’r Cynllun sy’n cynnwys ei hamcanion cydraddoldeb.

 

8.       Rydym, felly, yn datblygu ein dull gweithredu o safbwynt Byw’n Annibynnol dan y dyletswyddau cydraddoldeb penodol. Bydd y dyletswyddau yn ein helpu ni i brif ffrydio camau gweithredu a fydd yn cefnogi Byw’n Annibynnol ar draws adrannau Llywodraeth Cymru. Bydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, a fydd yn datgan ein hamcanion cydraddoldeb, yn ddogfen lefel uchel ac yn sylfaen iddi bydd fframwaith gweithredu, fel y crybwyllir uchod.

 

9.       Bydd y fframwaith yn cynnwys manylion yr hyn a wneir ar draws adrannau Llywodraeth Cymru a gydag ein partneriaid allanol i gefnogi byw’n annibynnol. Bydd y fframwaith yn seiliedig ar y Model Cymdeithasol o Anabledd y bu i Lywodraeth Cymru ei fabwysiadu yn 2002, ac sy’n eiriol mai’r gymdeithas sy’n creu rhwystrau niweidiol yn gorfforol ac o ran agwedd. Mae’n ddull cadarnhaol, sy’n canolbwyntio ar chwalu’r rhwystrau rhag cydraddoldeb.

 

10.    Trafodais y dull hwn gyda chynrychiolwyr o Anabledd Cymru yng Ngorffennaf ac roeddent yn cytuno y byddai’r ffocws hwn ar gyflenwi yn cael effaith gadarnhaol ar y meysydd blaenoriaeth sy’n cael eu nodi yn eu maniffesto.

 

Gweithgareddau Presennol

 

11.    Mae Anabledd Cymru hefyd wedi cydnabod bod Llywodraeth Cymru eisoes ynghlwm â gwaith sy’n cefnogi Byw’n Annibynnol. Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi gweld y dystiolaeth a gyflwynasom i’r Cydgomisiwn Hawliau Dynol, tystiolaeth sy’n amlygu’r gweithgareddau sydd eisoes i’w gweld ym meysydd addysg, cyflogaeth, tai, trafnidiaeth, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, a diwylliant, chwaraeon a hamdden, ac y byddant yn cefnogi pobl anabl i fyw bywydau annibynnol.

 

12.    Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ran hanfodol i’w chwarae i gefnogi llawer o oedolion anabl i fyw bywydau mwy annibynnol. Maent hefyd yn cynorthwyo llawer o bobl hŷn i gadw’u hannibyniaeth, ac yn helpu i baratoi plant a phobl ifanc agored i niwed ac anabl i fyw’n annibynnol yn y gymuned. Bu i Lywodraeth Cymru ddatgan ei gweledigaeth ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol yn ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu’ yn Chwefror 2011, ac mae wedi dechrau ar raglen weithredu bum mlynedd, gan gynnwys defnyddio’i phwerau deddfwriaethol newydd i gyflwyno Bil Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2012. Mae’r egwyddorion sy’n sylfaen i’r rhaglen hon, fel y cânt eu datgan yn ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy’, yn cynnwys rhoi i bobl lais cadarn a gwir reolaeth dros benderfyniadau sy’n effeithio arnynt, creu cymunedau cefnogol, trin pobl â pharch ac urddas a’u galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys am y modd y dymunant fyw eu bywydau. Maent hefyd yn cynnwys hybu gwellhad ac adferiad fel y gall pobl ddychwelyd i fyw fel y dymunant a chefnogi pobl i addasu i amgylchiadau newydd pryd bynnag nad yw hynny’n bosibl.

 

13.    Yn ganolog i ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy’ ceir ymrwymiad i wasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd. Mae’n datgan yn glir y disgwylir y bydd gan ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, gan gynnwys plant a phobl ifanc, lais cryfach mewn cynllunio, cynnal a gwerthuso gwasanaethau cymdeithasol. Disgwyliwn i amrediad llawer mwy o wasanaethau fod dan ofal dinasyddion eu hunain. Mae taliadau uniongyrchol yn un ffordd o gyflawni hyn, felly hefyd datblygu mentrau cymdeithasol. 

 

14.    Cyflwynwyd arweiniad newydd ar daliadau uniongyrchol yn Ebrill 2011, i roi ystyriaeth i’r ddeddfwriaeth newydd gan ymestyn taliadau uniongyrchol i bobl nad oes ganddynt y capasiti neu sy’n destun deddfwriaeth iechyd meddwl, pan ellir penodi ‘unigolyn addas’ i dderbyn y taliadau ar ran y sawl. Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd ymestyn taliadau uniongyrchol i grwpiau o bobl y cawsent eu hallgau’n flaenorol yn caniatáu i ragor o bobl anabl a’u gofalwyr wneud eu penderfyniadau eu hunain a rheoli eu bywydau eu hunain. 

 

15.    Roedd ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy’ yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu model o Gymorth Hunangyfeiriedig yng Nghymru sy’n gydnaws â’n hegwyddorion ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol. Caiff Taliadau Uniongyrchol a pheirianweithiau cyllido eraill eu hystyried fel rhan o ddatblygu’r model hwn. Cynhwysir ymgynghoriad ar gymorth hunangyfeiriedig fel rhan o’r ymgynghoriad ehangach ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

16.    Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i gefnogi gofalwyr, drwy weithredu Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2010 a drwy ddiweddaru Strategaeth Gofalwyr Cymru. Galluogodd y Mesur y Cynulliad i ddeddfu i gyflwyno gofyn newydd ar y GIG ac awdurdodau lleol i ddarparu, cyhoeddi a gweithredu Strategaethau Gwybodaeth i Ofalwyr yn lleol. Yn ogystal â darparu gwell gwybodaeth i ofalwyr, dylai’r strategaethau hyn sicrhau adnabod gofalwyr yn haws (gan gynnwys gofalwyr ifanc), a gwell trywyddion cyfeirio ac atgyfeirio. Cwblhawyd ymgynghoriad ar Reoliadau a Chanllawiau drafft ym Mehefin 2011, a daw’r Rheoliadau i rym ddechrau 2012. Disgwylir i Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol ymgynghori gyda gofalwyr a llunio’u strategaethau lleol erbyn hydref 2012, ac yna eu gweithredu. Mae Llywodraeth Cymru yn rhyddhau £5.8 miliwn i gefnogi gweithredu, gyda chyllid ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf i helpu i ymgynghori gyda phobl ifanc yn benodol.

 

17.    Bydd diweddaru Strategaeth Gofalwyr Cymru yn dechrau yn 2012. Nod y Strategaeth yw cefnogi gofalwyr yn effeithiol yn eu rôl ofalu, a’u helpu i gynnal eu hiechyd a’u lles eu hunain. Mae hyn yn cynnwys eu galluogi i gael bywyd y tu hwnt i ofalu. Un ffocws allweddol yn y Strategaeth wedi’i diweddaru fydd galluogi a chefnogi awdurdodau lleol, y GIG a’r Trydydd Sector i gyflenwi gwasanaethau i ofalwyr. Bydd hyn yn cynnwys datblygu gwasanaethau gofal seibiant ymhellach, gan ddilyn ymlaen o’r ‘Adolygiad o Ofal Seibiant yng Nghymru’ (Rhagfyr 2010) – yr ymchwil meintiol cynhwysol a systematig cyntaf i’w gomisiynu yng Nghymru ar y cyflenwad gwasanaethau seibiant a’r galw amdano. Bu i ymgynghoriad ar yr adolygiad yn gynharach eleni ddadlennu cefnogaeth eang i fuddsoddi cynyddol mewn amrywiol wasanaethau seibiant sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sydd wedi’u teilwrio i gyd-fynd ag anghenion yr unigolyn.

 

18.    Mae ein Strategaeth Dai i Gymru ‘Gwella Bywydau a Chymunedau, Cartrefi yng Nghymru‘ yn cydnabod anghenion tai pobl anabl ac yn eu galluogi i gael amrywiol ddewisiadau sy’n canolbwyntio ar fyw’n annibynnol am gyhyd â phosibl yn eu cartrefi eu hunain a, phryd bynnag y bo hynny’n angenrheidiol, darparu cefnogaeth a gofal o ansawdd.

 

19.    Ymysg yr amcanion allweddol yn y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru y mae lles ac annibyniaeth er mwyn sicrhau bod gan bobl hŷn – yn enwedig y rheini sy’n anabl – fynediad i’r cymorth y mae arnynt ei angen i aros yn eu cartrefi eu hunain gan gynnwys mynediad amserol i wres, addasiadau, atgyweiriadau, ‘teleofal’ ynghyd â thechnolegau cynorthwyol eraill a rhaglenni tai â chefnogaeth.

 

20.    Mae mynediad i gludiant cyhoeddus yn fater allweddol er mwyn cefnogi pobl i fyw’n annibynnol. Er hynny, rhaid cofio nad yw materion sy’n gysylltiedig â mynediad wedi’u datganoli ac nid oes gan Lywodraeth Cymru ddim pwerau gan San Steffan i wneud gwelliannau i’r rhwydwaith trenau cenedlaethol na’i orsafoedd.

 

21.    Mae’r holl orsafoedd trên y mae Llywodraeth Cymru wedi’u hariannu, gan gynnwys yr holl orsafoedd ar Linell Dyffryn Ebwy, a Gorsaf Llanharan yn gwbl hygyrch. Rydym hefyd wedi cefnogi amrywiol brosiectau a rhaglenni i helpu i wella hygyrchedd i gludiant cyhoeddus, gan gynnwys cyllid i wneud gorsafoedd trên yn fwy hygyrch, rhagor o fysiau lloriau isel, a darpariaeth gwybodaeth glyweledol ar drenau a bysiau, ac mewn gorsafoedd ac arosfannau bws. Gwyddom fod rhagor i’w wneud, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, a byddwn yn parhau i weithio i chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl anabl rhag defnyddio’r rhwydwaith trafnidiaeth, fel sydd wedi’i ddatgan yn ein strategaeth Drafnidiaeth ‘Cymru'n Un: Cysylltu'r Genedl’.

 

Diwygio lles

22.    Un pryder gwirioneddol i ni yw agenda Llywodraeth y DU ar ddiwygio lles, agenda a fydd heb os yn cael effaith fawr ar incwm pobl anabl ac o’r herwydd ar eu safonau byw a’u gallu i fyw’n annibynnol. Mae cyflymder y diwygio’n peri pryder. O safbwynt pobl anabl, ceir newidiadau yn y Budd-dal Analluogrwydd, y Lwfans Cymorth Cyflogaeth, a’r Lwfans Byw i’r Anabl, gydag unigolion yn cael eu hail-asesu i gadarnhau eu bod yn gymwys, a’r Gronfa Byw’n Annibynnol, sydd wedi’i chau i hawlwyr newydd.

 

23.    Mae’r effaith y bydd newidiadau yn y Lwfans Byw i’r Anabl ac yn y Gronfa Byw’n Annibynnol yn ei chael ar gapasiti adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol yn benodol, hefyd yn destun pryder mawr. Mae’n amlwg bod Llywodraeth y DU yn disgwyl i awdurdodau lleol fodloni unrhyw ddiffyg yn y ddarpariaeth yn sgîl y newidiadau ac ni chawsom ddim arwydd y bydd Llywodraeth y DU yn darparu cyllid ychwanegol i Gymru i gynorthwyo i’r perwyl hwn

 

24.    Gallai’r effaith ar incwm pobl unigol ac ar gyllidebau’r awdurdodau lleol, gyda’i gilydd, fod yn gyfyngiad mawr ar ein gallu i gyflawni ein nodau i gefnogi Byw’n Annibynnol.

 

25.    Mae llawer o bobl anabl yn dibynnu ar fudd-daliadau lles, naill ai fel eu prif ffynhonnell incwm neu i ategu’u hincwm i’w helpu i dalu costau cynyddol byw gyda’u nam. Rydym yn awyddus i sicrhau y dylai pawb sydd â hawl i fudd-daliadau eu cael ac rydym yn ariannu Cyngor ar Bopeth Cymru i helpu i gynyddu niferoedd y teuluoedd sydd â phlant anabl sy’n defnyddio budd-daliadau ac i gyflenwi’r cynllun Cyngor Da: Iechyd Da.

 

26.    Ers lansio’r cynllun peilot defnyddio budd-daliadau, yng Ngorffennaf 2009, cafodd dros 2500 o deuluoedd/plant eu helpu gyda dros £2.5 miliwn o enillion wedi’u cadarnhau hyd yma. Ni chadarnhawyd eto wir fesur o’r budd-daliadau a sicrhawyd i’r cleientiaid hyn gan fod llawer o’r ceisiadau am fudd-daliadau’n aros am benderfyniad o hyd. Mae ‘Cyngor Da: Iechyd Da’ yn darparu cyngor amrywiol ledled Cymru i gleientiaid sy’n cael eu cyfeirio drwy gyfrwng sefydliadau iechyd. Mae’r gwasanaeth yn gwella iechyd cyffredinol drwy fynd i’r afael ag achosion problemau anfeddygol megis dyled, tai gwael a phroblemau perthnasoedd. Mae awdurdodau lleol hefyd yn cael cyllid i ganfod a helpu’r rheini sy’n gymwys i gael y budd-dal treth gyngor i ddefnyddio’u hawl.

 

27.    Rwyf hefyd yn bryderus ynghylch cynigion yr Adran Gwaith a Phensiynau yn sgîl adolygiad Sayce, yn enwedig yr awgrym y dylai ffatrïoedd Remploy fod yn fentrau mwy masnachol hyfyw neu gael eu cau.

 

28.    Ar hyn o bryd, mae Remploy yn cyflenwi gwasanaethau hanfodol i bobl anabl ac mae nifer o gymunedau yng Nghymru yn dibynnu’n helaeth ar ffatrïoedd Remploy, gan eu bod yn gyflogwr pwysig yn eu hardal. Maent yn hanfodol i ddarparu cyfleoedd i bobl sy’n ei chael anoddaf dod o hyd i gyflogaeth mewn hinsawdd economaidd anodd a marchnad lafur gystadleuol iawn. Mae dileu’r cyfleoedd hyn heb gynnig dewisiadau amgen hyfyw yn eu lle yn peri pryder mawr.

 

29.    Bydd yn anodd cefnogi Byw’n Annibynnol yn wyneb y newidiadau sy’n digwydd o amgylch diwygio lles ac mewn amser o gyfyngiadau ariannol difrifol. Fodd bynnag, rwy’n credu, drwy ddefnyddio’r rheoliadau dyletswyddau penodol i sefydlu fframwaith gweithredu ar fyw’n annibynnol, y byddwn mewn sefyllfa i ddylanwadu ar bolisïau a rhaglenni ar draws Llywodraeth Cymru, fel ein bod yn prif ffrydio’r gweithredu a fydd yn cefnogi pobl i fyw bywydau gwir annibynnol.